Terfysgaeth: Dau o Gaerdydd wedi eu harestio yn Kenya

Map o'r ardal Image copyright bbc
Image caption Mae'n debyg bod y ddau wedi cael eu harestio yn Kenya, ger ffin â Somalia

Mae heddlu gwrthderfysgaeth yn Kenya yn holi dau ddyn 18 oed o Gaerdydd.

Dywed yr awdurdodau fod y ddau wedi eu harestio harestio ger y ffin â Somalia.

Mae teuluoedd y ddau wedi cael gwybod am y sefyllfa.

Yn ôl yr heddlu roedd un o dras Somali a'r llall o dras Pacistanaidd, a'r ddau yn ddinasyddion y DU.

Dywedodd tad un o'r dynion ei fod wedi hedfan i Somlalia i achub ei fab oedd wedi cael ei "gamarwain' i gredu y gallai gymryd rhan mewn rhyfel cyfiawn.

Dros y Sul fe wnaeth milwyr Kenya gynnal cyrch yn Somalia.

Dywedodd grwp eithafol al-Shabab y bod yn rhaid i Kenya dynnu'r milwyr yn ô neu wynebu brwydro gwaedlyd.

Mae'r awdurdodau yn Kenya yn rhoi'r bai ar al-Shabab am nifer o achosion herwgipio diweddar.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Kenya fod y dynion wedi cael eu harestio fore Llun, tua 8:00am yn Kenya.

Yn ôl y llefarydd: "Fe gawson nhw eu harestio wrth iddynt geisio croesi i Somalia. Maen nhw'n cael eu holi gan uned gwrthderfysgaeth heddlu Kenya."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Mae'r bobl yma'n cael eu cadw o dan gyfraith Kenya ac rydym yn delio gyda'r awdurdodau yn lleol i geisio sefydlu'r amgylchiadau a arweiniodd at eu harestio."

Yn ôl y Swyddfa Dramor maen nhw'n ymwybodol o adroddiadau fod y ddau wedi'u harestio ac maen nhw'n ceisio cael y cysylltiad consylaidd arferol.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod eu swyddogion mewn cysylltiad â'r Swyddfa Dramor a Llysgenhadaeth Prydain ym mhrifddinas Kenya, Nairobi.

"Dyw enwau'r unigolion yma ddim wedi cael eu cadarnhau yn ffurfiol eto, ond credir eu bod yn dod o ardal Caerdydd. Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod", meddai'r llefarydd ar ran yr heddlu.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.