Gatland 'wedi ystyried twyllo'
- Cyhoeddwyd

Wrth iddo gyhoeddi tîm rygbi Cymru i herio Awstralia yn Seland Newydd ddydd Gwener, mae'r hyfforddwr Warren Gatland wedi cyfaddef iddo ystyried gofyn i un o'i flaenwyr ffugio anaf yn ystod y gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.
Bu'n rhaid i'r prop Adam Jones adael y cae gydag anaf ar ôl dim ond wyth munud o'r ornest yn y rownd gyn derfynol yn Auckland.
Byddai anaf i brop arall wedi golygu na fyddai'r un sgrym o hynny ymlaen wedi cael ei wrthwynebu.
Byddai hynny wedi helpu Cymru oherwydd mai dim ond saith aelod o'r blaenwyr oedd gan Gymru yn dilyn carden goch y capten a'r blaenasgellwr, Sam Warburton, wedi 18 munud o'r gêm.
Aeth Cymru 'mlaen i golli o 9-8 yn erbyn Ffrainc.
Blaenasgellwr
"Fe wnaethon ni ei drafod ond penderfynais y byddai'n foesol anghywir," meddai Gatland.
Y prop Gethin Jenkins fydd capten Cymru wrth iddyn nhw gystadlu am y trydydd safle yng Nghwpan y Byd yn erbyn Awstralia ddydd Gwener.
Bydd yn cymryd lle Warburton, sydd wedi ei wahardd am dair wythnos ar ôl cael ei anfon o'r cae yn ystod y gêm yn erbyn Ffrainc am dacl beryglus.
Bydd Toby Faletau yn symud o safle'r wythwr i gymryd lle Warburton fel blaenasgellwr agored a Ryan Jones fydd yn gwisgo crys rhif wyth.
Paul James fydd yn cymryd lle Adam Jones fel y prop pen tynn am fod Jones yn dal wedi'i anafu.
A bydd Bradley Davies yn dechrau'r ornest yn yr ail reng yn lle Alun Wyn Jones sydd, yn ôl Gatland, wedi blino'n lân yn dilyn y gêm yn erbyn Ffrainc.
"Rydyn ni wedi perfformio mewn modd y gall y genedl fod yn falch ohonom hyd yn hyn yn Seland Newydd," meddai Gatland.
"Mae angen inni sicrhau fod y llyfrau hanes yn adlewyrchu'r hyn rydyn ni'n gwybod y gallwn ni ei wneud.
"A gallwn ni ddim ond gwneud hynny drwy guro Awstralia ddydd Gwener."
Bydd Cymru yn herio Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ar Ragfyr 3 eleni ac mae Gatland am i'r gêm honno fod yn gyfle i ddathlu.
"Rydyn ni eisiau dathlu'r ffaith ein bod ni yn un o'r tri thîm gorau yn y byd," meddai.
Cymru: L Halfpenny (Gleision Caerdydd); G North (Scarlets), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision Caerdydd), S Williams (Gweilch); J Hook (Perpignan), M Phillips (Bayonne); G Jenkins (Gleision Caerdydd, capten), H Bennett (Gweilch), P James (Gweilch), B Davies (Gleision Caerdydd), L Charteris (Dreigiau Casnewydd Gwent), D Lydiate (Dreigiau Casnewydd Gwent), T Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent), R Jones (Gweilch).
Eilyddion: L Burns (Dreigiau Casnewydd Gwent), R Bevington (Gweilch), A-W Jones (Gweilch), A Powell (Sale Sharks), L Williams (Gleision Caerdydd), S Jones (Scarlets), S Williams (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2011