Parc cenedlaethol yn 60 oed
- Cyhoeddwyd

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 ddydd Mawrth.
Dros y misoedd diwethaf mae'r parc wedi trefnu nifer o weithgareddau i nodi'r achlysur.
Fel rhan o'r dathliadau, agorwyd dau lwybr newydd sef Llwybr Pen-y-Gwryd a llwybr Taith Ardudwy.
Cynhaliwyd amryw o deithiau cerdded, gan gynnwys rhai ar gyfer y llai abl.
Bu staff y Parc Cenedlaethol ar daith feiciau noddedig yn codi arian ar gyfer elusen Achub y Plant.
'Esblygu'
Fe ddaeth y parc yn Barc Cenedlaethol ar Hydref 18, 1951.
I ddathlu'r achlysur bydd un o brosiectau diwylliannol y parc, Rhyfeddodau Eryri, yn cael ei gyflwyno i'r cyhoedd yn Oriel Croesor.
Mae'r prosiect yn "dathlu'r amrywiaeth o ryfeddodau drwy lenyddiaeth a llun".
Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips: "Mae rôl y Parc Cenedlaethol wedi esblygu dros y blynyddoedd.
"Mae'r parc yn parhau i ddatblygu prosiectau a pholisïau yn unol â'i bwrpasau statudol er mwyn sicrhau bod oblygiadau cadwraethol yn cael eu cyflawni.
'Blaenoriaeth'
"Yn ogystal, mae diogelu a dehongli diwylliant a threftadaeth y parc yn flaenoriaeth ac yn gam pwysig yn ei ddatblygiad."
Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: "Mae Eryri, ynghyd â pharciau cenedlaethol eraill Cymru, yn esiampl o dirwedd brydferth ac unigryw Cymru.
"Mae ein hamgylchedd gwerthfawr yn creu gwaith ac incwm gwerth biliynau o bunnoedd, gan gynnig cyfleoedd iechyd, hamdden, chwaraeon a dysgu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011