Fforestfach: Cyfri'r gost
- Cyhoeddwyd
Bydd dyfodol tymor hir tunelli o wastraff teiars fu'n llosgi am dros dair wythnos yn cael ei drafod yr wythnos hon.
Dywed adroddiad gan Gyngor Abertawe fod 5,000 tunnell o'r gwastraff teiars wedi achosi anhrefn pan losgodd yn hen ffatri Mettoys yn Fforestfach ym mis Mehefin eleni.
Mae'r cyngor sir yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu'r gost o £1.5m i daclo'r tân.
Mae gwastraff teiars nawr yn cael ei gadw dros dro yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot.
Cymorth ariannol
Mae'r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet y cyngor ddydd Iau yn dweud fod arbenigwyr yn asesu'r modd mwyaf diogel i ddelio â'r gwastraff.
Dywed yr adroddiad fod grŵp wedi ei greu i gasglu gwybodaeth i atal tân o'r fath rhag digwydd eto gan sicrhau fod yna "gyfundrefn gref o fonitro a gorfodi".
Bu'n rhaid i ran helaeth o hen ffatri Mettoys gael ei ddymchwel er mwyn i'r gwasanaeth tân symud y gwastraff oedd yn dal i losgi cyn ei roi mewn tanceri dŵr enfawr.
Ar y pryd dywedodd diffoddwyr mai dyma'r tro cyntaf i'r gwasanaeth tân yng Nghymru wynebu'r math o ddigwyddiad.
Bydd y cyngor yn cyflwyno cais am gymorth ariannol ar frys i Lywodraeth Cymru ar ran pawb fu'n rhan o'r ymgyrch i reoli'r tan.
Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys Heddlu De Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Dywed y cyngor eu bod ar fin cyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i'w caniatáu i gadw'r gwastraff yn safle Tata am hyd at naw mis.
Byddai hyn yn rhoi digon o amser i'r cyngor benderfynu y lle gorau a mwyaf diogel i gael gwared ar y gwastraff
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2011
- Cyhoeddwyd23 Awst 2011