Chwilio am ladron arfog

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi i ladron arfog ddwyn arian oddi wrth siop fetio ym Mhontllanfraith, ger y Coed Duon.

Dywed Heddlu Gwent fod dau ddyn, gyda gwn dwy faril a chyllell, wedi mynd i siop Ladrokes am 8.20pm nos Lun.

Ni chafodd unrhyw un niwed ond roedd y staff mewn sioc.

Roedd un o'r lladron yn gwisgo top glas gyda chwcwll, a thrywsus glas.

Roedd yr ail leidr yn gwisgo top cuddliw gyda chwcwll, a thrywsus chwaraeon tywyll.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.