Gwyddbwyll: Ymgyrch ysgolion
- Cyhoeddwyd

Mae disgyblion o Gymru ymysg nifer o blant ysgol ledled Prydain sy'n ymweld â San Steffan fel rhan o ymgyrch i sicrhau fod gwyddbwyll yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol.
Mae'r bobl ifainc eisoes yn rhan o fenter lle mae'r gêm yn cael ei ddysgu fel rhan o'r cwricwlwm.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu arian yn flynyddol i Undeb Gwyddbwyll Cymru i hybu'r gêm mewn clybiau a chystadlaethau, yn enwedig mewn ysgolion.
Mae Wallis Thomas sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Craig y Felin yng Nghlydach yn un o'r rheiny sydd yn teithio i Lundain.
'Brwdfrydedd'
Dechreuodd hi chwarae gwyddbwyll ar ddechrau'r flwyddyn .
Mae hi'n aelod o Academi Wyddbwyll Cymru, sydd wedi ei leoli yn Abertawe.
"Rwy'n hoffi'r ffordd mae gwyddbwyll yn cael ei chwarae," dywedodd wrth BBC Radio Cymru.
Dywedodd Deborah Evans, cyfarwyddwr Academi Wyddbwyll Cymru, fod nifer o blant yn elwa o'r profiad o chwarae gwyddbwyll."
"Rwy'n dysgu mewn ysgolion yn ystod amser sydd wedi'i glustnodi ar gyfer y cwricwlwm ac mae brwdfrydedd y plant yn hyfryd.
Mae'r digwyddiad yn Llundain yn rhan o ymgyrch sy'n cael ei arwain gan y grŵp Gwyddbwyll mewn Ysgolion a Chymunedau sydd yn cael eu cefnogi gan yr Uchel Feistr, Nigel Short.
"Mae nifer o astudiaethau academig wedi dangos bod gwyddbwyll yn fuddiol mewn amryw ffyrdd gan gynnwys cyfri, canolbwyntio, cynllunio a meddwl yn strategol," meddai Mr Short.