Gwaharddiad tair wythnos i Justin Tipuric o'r Gweilch
- Cyhoeddwyd

Bydd gwaharddiad Tipuric yn para tair wythnos
Mae blaen asgellwr a chapten dros dro'r Gweilch, Justin Tipuric, wedi ei wahardd am dair wythnos ar ôl ei gael yn euog o dacl peryglus 10 niwrnod yn ôl.
Derbyniodd cerdyn melyn am y drosedd yn erbyn Ian Keatey o dîm Munster.
Ond penderfynodd comisiwn disgyblaethol y Pro12 ei fod wedi haeddu cerdyn coch.
Bydd Tipuric felly yn methu'r gêm yng Nghwpan LV yn erbyn Northampton a hefyd ymweliad i Glasgow yng nghystadleuaeth Pro12.
Cafodd prop Munster, BJ Botha, ei glirio o benio yn yr un gêm.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol