Boomerang + i ddiswyddo 20

Cyhoeddwyd
Galeri cynhyrchu rhaglenniFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Y penderfyniad yn 'ymateb i doriadau rhaglenni gan S4C a'r BBC'

Mae cwmni teledu Boomerang +, sy'n cyflogi 200, wedi cyhoeddi y bydd 20 yn colli eu gwaith.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni fod telerau cynllun diswyddo wedi eu cyhoeddi.

Bydd cyfnod ymgynghori o 30 diwrnod yn dechrau'r wythnos nesa.

"Mae'n gam anffodus," meddai llefarydd, "ond daw hyn mewn ymateb i doriadau rhaglenni gan S4C a'r BBC."

Ac mae Boomerang+ yn berchen ar nifer o gwmnïau teledu, gan gynnwys Fflic, Alfresco ac Apollo.