Gwrthod cais i agor pwll glo
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr sir wedi penderfynu yn unfrydol beidio â rhoi caniatâd i ddatblygu pwll glo yng Nghwm Tawe.
Roedd cwmni Western Carbons o Rydaman am agor pwll ar safle pum erw ar Fynydd Allt-y-grug ger Godre'r Graig yn sir Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r safle tua milltir o Bwll y Gleision lle bu farw pedwar o lowyr wedi damwain ym mis Medi.
Tra bod swyddogion cynllunio wedi argymell rhoi caniatâd roedd swyddogion y priffyrdd yn erbyn y cynllun.
Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Western Carbons, Jeff McAvoy, wedi honni y byddai'r safle wedi cyflogi tuag wyth o ddynion wrth gynhyrchu glo ar gyfer y diwydiant ffiltro dŵr.
Blaenoriaeth
Yn ôl y cais cynllunio, byddai'r lofa yn cynhyrchu 150 tunnell o lo bob wythnos dros gyfnod o 10 mlynedd.
Byddai tair lori 10 tunnell yn cludo o'r safle bob diwrnod.
Roedd y cwmni wedi honni bod diogelwch yn flaenoriaeth ac wedi honni y byddai'r lofa yn diogelu 23 o swyddi gwaith puro dŵr yn Rhydaman.
Mae'r sir wedi derbyn 27 o lythyrau yn gwrthwynebu'r datblygiad.
Roedd rhai'n poeni am effaith y datblygiad ar drafnidiaeth ac effaith bosib ar gyflenwadau dŵr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2011