Simon Jones yn dychwelyd i Forgannwg am ddwy flynedd

Simon Jones Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chwaraeodd Simon Jones 18 gwaith dros Loegr

Mae cyn-fowliwr Lloegr, Simon Jones, 32 oed, yn ail-ymuno gyda Morgannwg ar gytundeb dwy flynedd o Sir Hampshire.

Mae'n dychwelyd i Stadiwm Swalec ar ôl chwe wythnos ar fenthyg gyda'r sir y tymor diwethaf.

Fe chwaraeodd mewn 10 gêm Ugain Pelawd a thair gêm Deugain Pelawd.

"Dwi'n hapus iawn i ddychwelyd adref a chwarae i Forgannwg," meddai.

"Mae'r clwb criced yma wedi chwarae rhan allweddol yn fy ngyrfa ac yn fy mywyd a dwi'n hynod o falch i fod yn ôl i'w helpu i gael llwyddiant dros y ddwy flynedd nesaf.

"Dwi'n gobeithio chwarae criced yn rheolaidd yma."

Cafodd ei fagu yn Llanelli ac fe chwaraeodd dros Forgannwg am y tro cyntaf yn 19 oed.

Y Lludw

Daeth i amlygrwydd ym mhencampwriaeth Y Lludw yn 2005.

Gadawodd Forgannwg ac ymuno â Chaerwrangon yn 2007.

Ond mae cyfres o anafiadau i'w ben-glin wedi golygu na chafodd gemau cyson.

Methodd Morgannwg â'i arwyddo yn 2009 pan adawodd Gaerwrangon am Sir Hampshire.

Eglurodd Jones fod dychwelyd yn nes at ei deulu yn ffactor allweddol yn ei benderfyniad dros arwyddo i Forgannwg.

"Mae hi wedi bod yn gyfnod rhwystredig iawn oherwydd anafiadau i mi, ond mae hynny y tu cefn i mi.

"Dwi'n edrych ymlaen at chwarae unwaith eto.

"Dwi ddim wedi peidio diystyru chwarae unwaith eto i Loegr.

"Mae gen i'r ddawn arweiniodd at fy newis yn wreiddiol ac fe alla i brofi rhai beirniaid yn anghywir.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Criced Morgannwg, Colin Metson, ei fod yn "hynod falch" bod Jones yn dychwelyd i dde Cymru.

"Fe wnaeth e gryn argraff arnom ni ar ac oddi ar y cae pan wnaeth ddychwelyd am gyfnod byr y tymor diwethaf.

"Rydym yn hynod o falch y bydd yma yn barhaol yn Stadiwm Swalec."dd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.