Digon o gefnogaeth i Gymru
- Cyhoeddwyd
Y prop o Dde Affrica Ollie Le Roux ddywedodd ym 1999 bod y gêm am y trydydd safle fel cusanu eich chwaer - mae'n anodd cyffroi amdani.
Roedd ganddo bwynt gan mai yn y bôn, dau dîm a'u cynffonau rhwng eu coesau sy'n chwarae, dau dîm oedd tan ychydig ddiwrnodau'n ôl yn gobeithio codi Cwpan y Byd.
Ond mae Cymru'n mynnu bo'n well 'da nhw fod yma'n chwarae am y fedal efydd na bod gartre, a thrwy ddewis y tîm cryfa' posib mae Warren Gatland wedi dangos bod y wobr gysur honno'n golygu rhywbeth i'r crysau cochion.
Bydd 'da nhw ddigon o gefnogaeth ta beth. Wrth grwydro o amgylch Auckland mae'n wirioneddol syfrdanol faint o siopau a busnesau sydd wedi dewis Cymru fel tîm i'w gefnogi.
Mae 'na ffenest siop yn Devonport sy'n bictiwr, a lluniau o Sam Warburton a'r gweddill wedi eu gosod mewn cennin Pedr.
'Dydd da' medd poster mewn siop arall. Cymru yw gwlad fabwysiedig Parnell hefyd a gan i Gyngor y Ddinas ddosbarthu dreigiau coch a phosteri di-ri i fusnesau'r ardal ffasiynol ma'i fel 'Steddfod Genedlaethol 'ma!
Nid bod pawb wedi eu hargyhoeddi gan Gwpan y Byd. Dywedodd perchennog bwyty Eidalaidd wrtha'i i fusnes ostwng 60-70% yn ystod mis Medi.
Mae'n rhoi'r bai ar y pentrefi dros dro o fariau a lleoedd bwyta sydd wedi eu creu i'r cefnogwyr yng nghanol y ddinas.
Er llwyddiant cyffredinol y gystadleuaeth mae'n amlwg nad yw cwpan pawb yn llawn.
Dyw Gerald Davies ddim erioed wedi cael ei siomi cymaint â phan gollodd Cymru yn erbyn Ffrainc yn y rownd gynderfynol.
Trodd y gêm ar gerdyn coch Sam Warburton, ac yn ôl cyn-asgellwr Cymru a'r Llewod mi ddylai Alain Rolland fod wedi pwyllo cyn danfon capten Cymru o'r cae. Bydd mwy gyda llaw am y cyfweliad hwnnw cyn diwedd yr wythnos.
Roedd y penderfyniad yn un cywir o safbwynt y rheolau, ond mae teimlad cryf yma nad oedd ystyriaeth ddigonol o'r amgylchiadau a'r achlysur.
A fyddai Ffrainc wedi cwyno petai Warburton wedi treulio 10 munud yn y cell cosb? Dwi'n amau.
Y gwir yw serch hynny y dylai Cymru fod wedi ennill gyda 14 ar y cae.
Mi fyddan nhw yn yr awyr wrth i'r rownd derfynol gael ei chwarae gan wybod mai ym Mharc Eden y dylen nhw fod.
Y gêm yn erbyn Awstralia oedd yn cael ei hystyried fel prawf mawr Seland Newydd, ac wedi ennill honno, mae cefnogwyr y Crysau Duon wedi creu lle'n barod yn y cwpwrdd i Dlws Webb Ellis.
Mae'n ymddangos bod angen Houdini o berfformiad gan Ffrainc i ddianc oddi yma heb golli am y trydydd tro mewn 6 wythnos.
Bron i chwarter canrif ers trechu Le Bleus yn y rownd derfynol mae'n debygol y bydd Seland Newydd eto ddydd Sul yn Bencampwyr Byd ar dir cartre'.
A phetai Cymru, fel yn 1987, yn curo Awstralia unwaith yn rhagor, bydd y cylch yn gyflawn.