Siddiqi: Disgwyl dyn gerbron llys

Mohammed Ali Ege Image copyright Other
Image caption Cafodd y dyn o ardal Glanyrafon, Caerdydd, ei arestio ddydd Llun

Mae disgwyl i ddyn 33 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir Siddiqi o Gaerdydd ymddangos gerbron llys yn yr India.

Roedd yr heddlu am holi Mohammed Ali Edge a daeth cadarnhad fod y dyn o ardal Glanyrafon, Caerdydd, wedi cael ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio ac o fod â dogfennau ffug yn ei feddiant.

Mae Heddlu De Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau yn yr India o ran trefnu ei anfon o'r wlad.

Yn y cyfamser, cafodd achos llofruddiaeth Mr Siddiqi ei ohirio yn Llys y Goron y brifddinas ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Mae Jason Richards, 37 oed, a Ben Hope, 38 oed, y ddau o Gaerdydd, wedi gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Straeon perthnasol