Cwest: Rheithfarn naratif

Gavin Proctor Image copyright Other
Image caption Roedd Gavin Proctor yn dibynnu ar beiriant anadlu

Mewn cwest yn Aberdaugleddau fe gofnodwyd rheithfarn naratif yn achos dyn 35 oed fu farw ar ôl pall ar gyflenwad trydan.

Roedd nychdod cyhyrol ar Gavin Proctor oedd yn golygu ei fod yn dibynnu ar beiriant anadlu.

Ac roedd yng nghartref nyrsio Ashdale ym Mhenfro lle oedd pall ar y trydan am 4.53am ar Ionawr 4, 2009.

O ganlyniad diffoddwyd ei beiriant anadlu, fe gafodd drawiad ar ei galon a bu farw.

Dywedodd y nyrs ar ddyletswydd y noson honno, Helen Corcoran, nad oedd erioed wedi cysylltu'r pecyn batris ac nad oedd hi'n gallu gweld unrhywbeth am nad oedd tortsh yn gweithio.

Honnodd uwchreolwyr y cartref fod staff yn cael gwybod yn gyson sut i droi'r generadur brys ymlaen mewn argyfwng.

Ond clywodd y cwest, hyd yn oed pe bai'r generadur wedi ei droi ymlaen, ni fyddai wedi achub bywyd Mr Proctor gan nad oedd yn cyflenwi pŵer i'w ystafell.