Tân ar fwrdd llong bysgota

'Rememberance' Image copyright bbc
Image caption Roedd y llong ger Cei Conwy

Cafodd diffoddwyr eu galw oherwydd tân ar fwrdd llong bysgota ger Cei Conwy.

Galwyd y gwasanaethau brys am 2.02am fore Mercher gan rywun oedd yn cerdded heibio ac a welodd fwg yn codi o'r Rememberance.

Cyrhaeddodd diffoddwyr o Gonwy a Llandudno a defnyddio camera darlunio thermal wrth geisio diffodd y fflamau.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân ei bod hi'n ymddangos mai'r achos oedd llosgydd coed ar fwrdd y llong.

Yr amcangyfrif yw bod dwy fedr sgwâr o'r llong wedi eu difrodi a bod mwg wedi effeithio ar 10 medr sgwâr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân nad oedd hi'n ymddangos fod unrhyw un ar fwrdd y llong ar y pryd.