Anrhydeddu arwr o'r Llu Awyr
- Cyhoeddwyd

Bydd Coleg yn Sir Gaerfyrddin yn anrhydeddu peilot o'r Llu Awyr a gafodd ei ladd yn ystod y brwydro am oruchafiaeth yn y rawyr uwchben Prydain yn 1940.
Fe wnaeth Reg Isaac o Lanelli hedfan ei awyren Spitfire at nifer o awyrennau Messerchmitt ar Awst 5 1940 gan achub bywydau nifer o'i gymrodyr.
Cafodd plac yn cael ei ddadorchuddio yng Ngholeg Sir Gâr, sef hen Ysgol Ramadeg Llanelli lle bu Mr Isaac yn ddisgybl rhwng 1927 a 1934.
Cyn arweinydd y Ceidwadwyr, Yr Arglwydd Howard, sydd hefyd yn gyn ddisgybl yn yr ysgol ramadeg, wnaeth ddadorchuddio'r plac.
'Sgwadron 64'
Mae'r gofeb yn rhan o ymgyrch gan gymdeithas hanes i osod plac yn ysgolion bob un o'r 2,900 peilot a fu'n ymladd dros Brydain.
Magwyd Reg Isaac yn Llanelli ac ymunodd â Lloyds Bank wedi iddo adael yr ysgol.
Symudodd Mr Isaac i Lundain i weithio yn ystod y 1930au ond ymunodd â'r Llu Awyr pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939.
Roedd Mr Isaac yn rhan o Sgwadron 64 yn Kenley.
Roedd e'n rhan o sgwadron o chwe awyren a gafodd eu targedu gan nifer o awyrennau Messerschmitt ar Awst 5 1940.
Penderfynodd sargant Isaacdroi ei awyren a'i hedfan i ganol yr awyrennau Messerschmitt gan wybod y byddai'n cael ei ladd.
Dywedodd Clive Millman, cydlynydd Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain ei fod yn bwysig i gofio cyfraniad y peilotiaid.
"Y lle gorau i anrhydeddu'r peilotiaid yw yn eu hen ysgolion i'n hatgoffa bod y dynion nyn wedi bod yn blant a ddaeth yn arwyr yn sgil digwyddiadau mawr yr Ail Ryfel Byd".