Dau gwmni yn rhan o ymchwiliad prifysgol
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni cyfrifeg a thîm cyfreithiol yn cynorthwyo Prifysgol Aberystwyth i ymchwilio i weithgareddau masnachol a gweithredol sy'n ymwneud â stadau'r coleg.
Fe ddaeth nifer o faterion i'r amlwg wedi i'r is-ganghellor newydd, yr Athro April McMahon, orchymyn cynnal adolygiad mewnol yn gynharach yn y mis.
Cwmni cyfrifeg Deloitte a chwmni cyfreithiol Eversheds fydd yn cynorthwyo'r brifysgol.
Dyw'r heddlu ddim yn rhan o'r ymchwiliad.
Mae disgwyl i'r ymchwiliad gael ei gwblhau yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Dywed y brifysgol fod aelodau staff yn cydweithio gyda'r ymchwiliadau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol