Cwmni Gwyliau Seren Arian yn ail-gydio yn y gwaith

Seren Arian Image copyright BBC news grab
Image caption Mae'r cwmni'n ffyddiog am y dyfodol

Ar ôl mynd i'r wal bythefnos yn ôl, fe fydd cwmni gwyliau o Wynedd yn ail-gydio yn y gwaith ond ar newydd-wedd.

Fe wnaeth Cwmni Seren Arian o Gaernarfon roi'r bai ar bris tanwydd a'r sefyllfa economaidd pan gafodd ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Ond bellach mae cwmni newydd wedi ei ffurfio, ar ôl cael sicrwydd o gefnogaeth ariannol.

Dywedodd Elfyn Thomas, rheolwyr y cwmni newydd, Gwyliau Seren Arian Cyf, ei fod yn obeithiol ynglŷn â'r dyfodol.

Bydd cwsmeriaid oedd wedi gwneud trefniadau gyda'r hen gwmni nawr yn cael y cynnig i ail drefnu eu gwyliau gyda'r cwmni newydd neu gael eu harian yn ôl.

"Mae o wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ddweud y gwir achos mae rhywun yn son am 93 o flynyddoedd o fusnes - a hwnna'n fusnes teuluol," meddai Mr Thomas.

"Ond mae'r gefnogaeth rydym wedi ei gael gan gwsmeriaid a gwestai 'rydym wedi bod yn eu defnyddio ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn aruthrol."

Ar hyn o bryd does dim gwybodaeth beth fydd yn digwydd o ran sefyllfa credydwyr yr hen gwmni oedd ag arian yn ddyledus iddyn nhw.

Hyd yma dydi'r gweinyddwyr ddim wedi dweud os oes ganddyn nhw obaith o gael eu harian yn ôl.

Am dros 90 mlynedd bu bysiau'r hen gwmni yn bresenoldeb amlwg ar ffyrdd Gwynedd a thu hwnt wrth iddyn nhw gludo pobl yn eu miloedd ar wyliau ym Mhrydain a thramor.

Roedd y cwmni'n yn cludo 12,000 o bobl ar wyliau bob blwyddyn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.