Sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yng Ngwersyllt
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Wrecsam yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i agor ysgol gynradd Gymraeg yn y sir yn 2013.
Daw hyn ar ôl i ymgynghoriad ddod i'r casgliad bod y mwyafrif o blaid y datblygiad.
Fe fydd yr ysgol yn cael ei chodi ar dir ar Rhodfa Delamere yng Ngwersyllt, pentref ar gyrion gogleddol y dref.
Yn yr ysgol fe fydd 'na le ar gyfer 210 o ddisgyblion 3-11 oed.
Dywed y cyngor y bydd agor yr ysgol yn lleihau'r pwysau ar Ysgol Plas Coch.
Mae nifer y rhai sy'n mynd i'r ysgol honno wedi mwy na dyblu ac mae nifer helaeth o'r disgyblion yn cael gwersi mewn dosbarthiadau dros dro.
Pryderon
Roedd rhai o drigolion Gwersyllt wedi lleisio pryderon y byddai cynnydd sylweddol yn y traffic wrth agor yr ysgol newydd.
Roedd eraill wedi cwestiynu'r angen am ysgol newydd gan godi pryderon am yr effaith ar ysgolion Saesneg lleol.
Ond mae bwrdd gweithredol y cyngor wedi cytuno i'r rhybuddion statudol gael eu cyhoeddi ar ôl cael gwybod bod y sefyllfa yn Ysgol Plas Coch yn gwaethygu.
Clywodd y cynghorwyr hefyd bod rhieni plant o ardal Gwersyllt, Llai a Bradle sy'n mynd i Ysgol Plas Coch yn galw am ysgol yn fwy lleol iddyn nhw.
Bydd 'na le i 30 disgybl ym mhob blwyddyn a fydd, yn ôl swyddogion lleol, yn ateb y galw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2011
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2011
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2010
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2009