Damwain Gleision: Heddlu'n rhyddhau dyn ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 55 oed a gafodd ei arestio ddydd Mawrth mewn cysylltiad â digwyddiad ym Mhwll Glo'r Gleision wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd y dyn ei holi yng Ngorsaf yr Heddlu ym Mhort Talbot.

Cafodd Malcolm Fyfield, rheolwr y pwll, ei arestio yng Ngwm Tawe ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.

Bu farw pedwar o lowyr - Phillip Hill, 45 oed o Gastell-nedd, a Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50 oed, a Garry Jenkins, 39 oed, y tri o Gwm Tawe, yn y ddamwain ar ôl i ddŵr lifo i'r pwll.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dorian Lloyd sy'n arwain yr ymchwiliad, bod y dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.

Mae'r ymchwiliad i farwolaeth pedwar o ddynion yn y pwll ar Fedi 15 yn dal i fynd ymlaen.