Rhyddhau dau ddyn oedd yn Kenya

  • Cyhoeddwyd
Abdirhman Haji AbdallahFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Aeth Abdirhman Haji Abdallah, o Gaerdydd, i chwilio am ei fab yn Nairobi, Kenya

Mae dau ddyn 18 oed o Gaerdydd gafodd eu holi gan heddlu gwrthderfysgaeth yn Kenya a'r heddlu gwrthderfysgaeth yn Llundain wedi cael eu rhyddhau yn ddigyhuddiad.

Cafodd y ddau, Mohamed Mohamed a Iqbal Shahzad eu harestio ger y ffin rhwng Kenya a Somalia ar amheuaeth o fod â chysylltiadau a therfysgwyr yn Somalia.

Aeth tad Mohamed Mohamed, sydd o dras Somalia, at yr heddlu cyn hedfan i Nairobi, Kenya, i chwilio am ei fab.

Cafodd y ddau, eu rhyddhau gan Heddlu Llundain am 11pm nos Fercher.

Nos Sul roedd cyfarfod cymunedol yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd.

Dywedodd datganiad cymunedau Somali a Phacistani'r ddinas eu bod yn disgwyl i'r ddau ddychwelyd, gan ychwanegu: "Mae teuluoedd y ddau yn ddiolchgar i Dduw eu bod yn iach ac yn ddiogel.

"Pan sylweddolodd y teuluoedd fod y ddau ar goll, fe gafodd yr awdurdodau wybod.

"Rydym yn ddiolchgar bod yr awdurdodau drwy gydweithio gyda'r cymunedau, wedi llwyddo i ddod o hyd i'r llanciau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol