Ysgol Gyfun Gwynllyw yn agor adeilad newydd
- Cyhoeddwyd

Bydd adeilad newydd sy'n rhan o Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen yn agor yn swyddogol.
Cafodd £12.1 miliwn ei fuddsoddi i ddatblygu adnoddau'r ysgol ar gyrion Pont-y-pŵl.
Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn haf 2013 bydd yr ysgol yn gallu darparu ar gyfer 1,100 o ddisgyblion.
Mae plant o siroedd Torfaen, Casnewydd, Mynwy a Blaenau Gwent yn mynychu'r ysgol.
Daw £3 miliwn o'r arian ar gyfer y gwelliannau oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Y Gweinidog Addysg Leighton Andrews fydd yn agor yr adeilad newydd yn swyddogol ddydd Gwener.
Erbyn diwedd y gwaith adnewyddu ac ehangu fe fydd gan yr ysgol ddau floc dysgu newydd.
Bydd yna waith adnewyddu hefyd yn cael ei wneud ar y prif adeilad.
Sawl sir
Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer safle bysiau o fewn yr ysgol er mwyn hwyluso problemau traffig.
Dywedodd arweinydd cyngor Torfaen, Bob Wellington: "Mae Ysgol Gyfun Gwynllyw mewn sefyllfa unigryw yng Nghymru gan ei fod yn gwasanaethu cynifer o awdurdodau lleol.
"Mae partneriaeth lwyddiannus wedi gweld cydweithio rhwng y pedwar awdurdod gan chwarae rhan bwysig wrth ein cynorthwyo i wella'r safle a'r adnoddau ar gyfer disgyblion."
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews fod buddsoddiad y Llywodraeth yn tanlinellu eu hymrwymiad i ddarparu ysgolion sy'n addas ar gyfer dysgu yn yr 21ain Ganrif.
"Bydd yr adnoddau arbennig hyn yn creu argraff positif a pharhaol ar allu a chyrhaeddant disgyblion sy'n mynychu'r ysgol."
Straeon perthnasol
- 19 Hydref 2007
- 26 Medi 2007
- 3 Awst 2007
- 17 Mawrth 2004