Cadw athro yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Mae athro 47 oed ar gyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder wedi cael ei gadw yn y ddalfa tra bod adroddiad yn cael ei baratoi.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod John Grindell wedi creu cyfrifon gwefannau Twitter ac YouTube lle cyhoeddodd fanylion am achos llys lle oedd yn wynebu cyhuddiad o drosedd rywiol yn erbyn plentyn.
Roedd yr athro o Gefn-y-bedd rhwng yr Wyddgrug a Wrecsam wedi'i gyhuddo o dreisio ond fe wadodd hynny ac fe gafodd y cyhuddiad ei ollwng.
Plediodd yn euog i gyhuddiad o weithgarwch rhywiol â merch 14 oed ac roedd y drosedd honedig ym mis Awst y llynedd.
Dywedodd yr erlynydd, Owen Edwards, fod y diffynnydd wedi mynegi dymuniad ar y we ei fod am gynnal perthynas gyda'r ferch ac yn cyfri'r dyddiau cyn ei phen-blwydd yn 16 oed.
Pan oedd Mr Grindell, sy'n briod gyda dau o blant, gerbron Ynadon Y Fflint ym mis Ebrill eleni fe gafodd ei ddisgrifio fel cerddor, darlledwr ac athro mawr ei barch.
Mae wedi ei wahardd o'i swydd fel athro cerdd yn Llannerch Banna ger Wrecsam.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Tachwedd.