TGAU: Bwlch yn cynyddu
- Cyhoeddwyd

Mae'r bwlch rhwng canlyniadau TGAU disgyblion Cymru a Lloegr yn cynyddu, yn ôl ystadegau newydd.
Yn Lloegr mae nifer y disgyblion sy'n cael graddau rhwng A* ac C mewn pum arholiad TGAU, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, wedi codi 5% i 58.3%.
Yng Nghymru cododd y nifer 0.2% i 49.6%.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd modd cymharu'r ystadegau'n uniongyrchol "er ein bod yn cydnabod y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr".
O ran canlyniadau Safon Uwch cododd canran disgyblion Cymru gafodd yr hyn sy'n cyfateb i ddwy lefel A o 94.9% i 96.2% eleni.
Yn Lloegr cwympodd y ganran ychydig o 94.8% y llynedd i 92.7% eleni.
'Heriol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw'r ystadegau gafodd eu rhyddhau yn Lloegr heddiw yn rhai y gellir eu cymharu'n uniongyrchol gyda rhai yng Nghymru ...".
Roedd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, meddai, wedi "gosod agenda heriol ar gyfer gwella".
"Mae'r ystadegau newydd yn ategu barn y Gweinidog fod llawer mwy i'w wneud."
Yn gynharach eleni fe gyfeiriodd BBC Cymru am y tro cyntaf at amrywiaeth sylweddol canlyniadau TGAU ysgolion yr oedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddyn nhw berfformio ar lefel debyg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2011
- Cyhoeddwyd24 Awst 2010
- Cyhoeddwyd23 Mai 2011