Gobeithio efelychu tîm rygbi Cymru 1987

Gethin Jenkins Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gethin Jenkins fydd capten Cymru ddydd Gwener yn absenoldeb Sam Warburton

Mae dirprwy hyfforddwr Cymru, Robin McBryde, wedi cyfadde' nad y gêm yn erbyn Awstralia fore Gwener oedd yr un yr oedd y tîm wedi gobeithio amdani.

Ond dywedodd hefyd fod y tîm yn benderfynol o efelychu tîm Cwpan y Byd 1987 a chipio'r trydydd safle ar draul Awstralia.

Roedd Cymru'n fuddugol yn Stadiwm Rotorua bryd hynny o 22-21 diolch i drosiad Paul Thorburn o gais Adrian Hadley ar ddiwedd y gêm.

'Creu hanes'

Dywedodd McBryde: "Nid ydym yn diystyru Awstralia.

"Rydym yn gwybod y bydd hi'n frwydr, ac mae'n gêm mae'n rhaid i ni ei hennill.

"Fe allwn ni greu ychydig bach o hanes oddi cartref, ac fe fyddwn ni'n edrych ymlaen at gael croeso adref yng Nghymru os enillwn ni nos Wener."

Unwaith eto fe fydd cefnogaeth i Gymru yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru brynhawn Iau fod 15,000 o docynnau wedi eu dosbarthu i bobl sydd am wylio'r gêm ar y sgrin fawr yno, gyda'r giatiau yn agor am 7:30am.

Mae disgwyl torf o 55,000 yn Eden Park, Auckland, i wylio'r gêm yn fyw.

Mae nifer o sylwebwyr wedi darogan gêm agored rhwng dau dîm sydd wedi gwneud enw iddyn nhw'u hunain yn y gystadleuaeth am fod â greddf ymosodol.

Ieuenctid

Ond mae cyn-flaenwr Cymru a'r Llewod, Scott Quinnell, wedi talu teyrnged hefyd i ieuenctid y garfan am yr agwedd yna, a'u ffitrwydd.

"Roedd ffitrwydd a hunanhyder y garfan yn rhyfeddol, ac yn dod o'r garfan ei hun," meddai Quinnell.

"Rwy'n clywed fod llawer o hynny yn dod gan y chwaraewyr ifanc.

"Maen nhw am fod y gorau y gallan nhw.

"Mae'n fy nghyffroi o edrych ymlaen at y pedair blynedd nesaf sut y gallwn newid, sut y gallwn ddatblygu, sut y gallwn ddod â chwaraewyr newydd i mewn i awyrgylch lle maen nhw'n gwthio'i gilydd ymlaen.

"I mi, dyma'r cyfnod mwyaf cyffrous erioed."

Torri record

Bydd dau o chwaraewyr Cymru yn creu record fore Gwener.

Dyma fydd y seithfed gêm yn olynol yn y gystadleuaeth i Toby Faletau - un yn fwy na record Paul Thorburn, Adrian Hadley a Paul Moriarty 24 mlynedd yn ôl.

Bydd record George North yn wahanol ac anarferol iawn.

Bydd asgellwr y Scarlets yn chwarae i Gymru am y 15fed tro fore Gwener - mae hynny un gêm yn fwy na'r 14 gêm y mae wedi chwarae i'w glwb!

Tîm Cymru v Awstralia; Eden Park, Auckland; Dydd Gwener, Hydref 21 am 8:30am (amser Cymru)

Olwyr: - Leigh Halfpenny (Gleision); George North (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Shane Williams (Gweilch); James Hook (Perpignan), Mike Phillips (Bayonne);

Blaenwyr :- Gethin Jenkins (Gleision, capt), Huw Bennett (Gweilch), Paul James (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Luke Charteris (Dreigiau), Dan Lydiate (Dreigiau), Toby Faletau (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch);

Eilyddion: Lloyd Burns (Dreigiau), Ryan Bevington (Gweilch), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Andy Powell (Sale Sharks), Lloyd Williams (Gleision), Stephen Jones (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).