Bachgen 14 oed wedi marw mewn chwarel yn Sir Ddinbych

Bu farw bachgen James Beck, 14 oed, ar ôl disgyn i mewn i chwarel yn Sir Ddinbych.

Galwyd y gwasanaethau brys ynghyd â hofrennydd o'r Fali ar Ynys Môn i'r safle yng Ngallt Melyd ger Dyserth am 6.48pm nos Iau.

Aed ag e i Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r crwner a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Yn ôl yr heddlu, nid yw amgylchiadau'r farwolaeth yn amheus.

'Ysgytwol'

Dywedodd Prifathro Ysgol Uwchradd Prestatyn, Phil Pierce: "Mae'r effaith ar bawb yn yr ysgol yn ysgytwol.

"Roedd James yn ddisglair, yn aeddfed, yn gofalu am bobl eraill ac yn gwrtais.

"Rydym yn meddwl am y teulu ar adeg anodd iawn."

Dywedodd y byddai cefnogaeth broffesiynol ar gael i ddisgyblion.

Mae'r graig lle syrthiodd y bachgen tua 35 metr o uchder.

Yn ôl pobl leol, mae nifer o ddamweiniau wedi digwydd yn y chwarel dros y blynyddoedd diwetha'.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.