BBC Cymru Fyw

Oriel: Cefnogwyr Cymru yn Seland Newydd

Published
image captionRoedd miloedd o gefnogwr Cymru wedi paratoi ar gyfer y gêm yn Stadiwm Eden Park yn Auckland ddydd Gwener yn erbyn Awstralia
image captionOnd roedd rhaid i gapten Cymru Sam Warburton wylio'r gêm o'r eisteddle ar ôl cael cerdyn coch yn y gêm flaenorol yn erbyn Ffrainc
image captionRoedd 'na gryn obaith ymhlith y cefnogwyr cyn y gêm y byddai Cymru yn llwyddo i ennill a gorffen yn drydydd
image captionDim ots faint o waed Cymrerig oedd gan rywun roedden nhw am fod yn Stadiwm Eden Park ddydd Gwener i roi cefnogaeth i'r tîm
image captionDwy yn amlwg yn falch iawn o gais Shane Williams
image captionAc er bod Cymru ar ei hôl hi ar yr hanner o 7-3 roedd 'na obaith o hyd ymhlith y cefnogwyr
image captionRoedd rhai o'r cefnogwyr wedi mynd ati i gael gwisgoedd arbennig ar gyfer yr achlysur....
image caption....o bob lliw a llun
image captionLlun i gofio eu bod yno ar ddiwrnod a allai fod wedi bod mor wahanol
image captionOnd roedd canlyniad y gêm 21-18 i Awstralia yn sicr o suddo'r galon ymhlith y cefnogwyr