Pentref yn galw am fast ffôn newydd

Llanon Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae pentrefwyr wedi creu tudalen ar wefan Facebook fel rhan o'u hymgyrch

Mae pentrefwyr yng Ngheredigion wedi dechrau ymgyrch i godi mast ffôn symudol wedi iddynt fod heb signal am dros bythefnos.

Mae trigolion Llanon, sydd tua 11 milltir i'r de o Aberystwyth, wedi creu tudalen ar wefan Facebook fel rhan o'u hymgyrch i wella'r gwasanaeth ffôn symudol yn yr ardal.

Mae ymgyrchwyr yn honni mai'r unig rwydwaith ffôn symudol sy'n gweithio yn y pentref yw un O2 ac o ganlyniad mae'r rhan fwyaf o bentrfwyr yn defnyddio'r rhwydwaith hwnnw.

Ond bu bobl Llanon ddim yn gallu defnyddio eu ffonau symudol am gyfnod ym mis Medi oherwydd bod cwmni O2 yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar eu mast.

'Diffyg gwasanaeth'

Yn ôl Elin Gwenallt Jones, sy'n byw yn Llanon, hwn yw'r trydydd tro eleni iddi beidio gallu defnyddio eu ffôn symudol am gyfnod.

"Mae hyn yn warthus am nad yw'r cwmni wedi ymddiheuro am y problemau sydd wedi eu hachosi," meddai.

"Rwy'n berson anabl a fy unig ffôn yw fy ffôn symudol.

"Bu rhaid imi weiddi ar bobl oedd yn digwydd pasio'r tŷ i ofyn iddynt wneud galwadau ffôn ar fy rhan.

"Mae angen i'r cwmni wneud rhywbeth i sicrhau bod y signal ffôn yn gwella."

Dywedodd llefarydd ar ran O2, Andrew Cocks, fod gwaith cynnal a chadw wedi effeithio ar y gwasanaeth am bythefnos ym mis Medi.

"Mae'n bosib fod y gwasanaeth wedi cael eu heffeithio am fod dyfeisiadau newydd gyda llawer o ddata fel y 'smartphone' yn rhoi mwy o bwysau ar y rhwydwaith.

"Y llynedd fe lwyddodd y cwmni i i adeiladu 1,500 mast newydd yn y Deyrnas Unedig ac mae'n dda i weld cymuned yn ymgyrchu i wella'r gwasanaeth yn eu hardal."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.