Canfod swm 'sylweddol' o ganabis

  • Cyhoeddwyd
Planhigion canabis (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio tri pherson ar ôl dod o hyd i swm "sylweddol" o ganabis ar ôl cyrchoedd yn ardal Conwy.

Archwiliwyd dau dŷ yn nhref Conwy a fferm yn ardal Henryd fore Mercher.

Daeth heddlu o hyd i swm sylweddol o'r cyffur ar ddau safle gan gynnwys fferm lle'r oedd cuddfan arbennig wedi ei greu o dan hen sied.

Cafodd tri dyn eu harestio.

Cafodd un ei ryddhau yn ddigyhuddiad a chafodd dau eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymchwiliad yn parhau.