Dyn busnes wedi twyllo £30,000
- Cyhoeddwyd

Mae dyn busnes wedi cael dedfryd o naw mis o garchar wedi ei gohirio am flwyddyn am dwyllo cwsmeriaid o £30,000 yng Ngwynedd.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Samuel Edwards, 28 oed o Salford, wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad o dwyll.
Roedd wedi gwerthu cychod a beiciau dŵr y cwsmeriaid cyn i'w gwmni - SQM Marine Sales ym Mhwllheli - fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Cafodd orchymyn i wneud 300 awr o waith di-dâl yn y gymuned a bydd rhaid iddo dalu costau o £1,200.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry: "Mae talu iawndal yn fater i rywle arall."
Cynnal a chadw
Yn ôl yr erlynydd Gareth Parry, roedd perchennog cwch rasio gwerth £11,500 wedi defnyddio'r cwmni i gynnal a chadw'r cwch.
Roedd wedi dweud wrth Edwards am ddweud wrtho os oedd rhywun yn mynegi diddordeb mewn prynu'r cwch.
Dywedodd Mr Parry: "Cafodd wybod yn ddiweddarach fod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a bod y cwch wedi cael ei werthu am £10,000.
"Doedd y cwsmer ddim wedi derbyn unrhyw arian."
Roedd meddyg hefyd wedi rhoi caniatâd i brynwyr weld ei gwch ond collodd yntau £6,000 pan gafodd ei werthu.
Cafodd dau gwsmer arall eu twyllo a dywedodd Mr Parry fod Edwards wedi bod yn gyfrwys wedi iddo gael ei arestio.
'Cymryd mantais'
Wrth amddiffyn, dywedodd Gordon Hennell fod Edwards wedi dechrau rheoli'r cwmni yn ystod y cyfnod gwaethaf posib.
"Nid rhywun yn twyllo er ei les ei hun oedd hwn ond ymgais i gadw'r busnes i fynd drwy ddwyn yr hen i dalu'r newydd," meddai.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Niclas Parry: "Fe wnaethoch chi sefydlu eich hun fel dyn proffesiynol y gallai rhywun ymddiried ynddo gydag eiddo gwerthfawr pobl eraill.
"Fe wnaethoch chi gymryd mantais ar yr ymddiriedaeth a defnyddio eiddo eraill mewn ymgais i wneud elw ariannol i'ch cwmni.
"Rwy'n derbyn bod eich edifeirwch yn ddidwyll a'ch bod yn teimlo cywilydd ."