Rygbi 13: Harris yn hyderus dros Gymru

Iestyn Harris Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Daeth Iestyn Harris yn hyfforddwr Cymru wedi ymadawiad John Dixon yn 2009

Mae hyfforddwr tîm rygbi 13 Cymru, Iestyn Harris, yn credu fod ei dîm eisoes wedi gwneud yn dda i gyrraedd Pencampwriaeth y 4 Gwlad eleni.

Bydd Cymru yn chwarae eu gêm baratoadol olaf yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn cyn y bencampwriaeth y penwythnos canlynol.

Bydd gêm gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth go iawn yn erbyn Lloegr yn Leigh ar ddydd Sadwrn, Hydref 29.

Dywedodd Harris: "Rydym ryw dair neu bedair blynedd o flaen ein hamserlen, a doeddwn i ddim wir yn credu y byddai'r tîm wedi dod mor bell mor fuan.

"Ond rhaid cymryd bob cyfle fel y mae'n dod, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw.

"Dyma'n cyfle i ddod i amlygrwydd yn y byd chwaraeon yng Nghymru."

Un o aelodau mwyaf profiadol carfan Harris yw Gareth Thomas.

Chwaraeodd Thomas 100 o weithiau i dîm rygbi'r undeb Cymru cyn gwneud y penderfyniad i newid camp.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Enillodd Gareth Thomas 100 o gapiau i Gymru yn y ffurf 15 dyn cyn newid campau

Ychwanegodd Harris: "Bu'n anodd iawn dros y blynyddoedd diweddar yn chwarae mewn cystadlaethau eilradd a cheisio cael pobl i'ch cefnogi.

"Doedd neb yn disgwyl i ni fynd i Ffrainc y llynedd ag ennill.

"Fe fyddwn ni yn yr un sefyllfa eleni, a does dim pwysau arnom ni.

"Dyma fydd ein cystadleuaeth elit gyntaf ers blynyddoedd lawer.

"Rhaid i ni fachu'r cyfle gyda'r ddwy law a sefydlu ein hunain fel un o'r prif dimau."

Ers i Harris gael ei benodi'n hyfforddwr Cymru yn 2009, mae wedi mwynhau llwyddiant.

Enillodd Cymru'r hawl i chwarae ym Mhencampwriaeth y 4 Gwlad drwy ennill Cwpan Ewrop yn 2010 gan guro Ffrainc 12-11 yn Albi.

Bwriad Harris yw defnyddio cymaint o'r garfan o 24 ag sy'n bosib yn erbyn Iwerddon er mwyn iddyn nhw gael amser ar y cae cyn wynebu Lloegr.

Mae'n bosib y bydd hyn yn gweld Tyson Frizell, Matt Seamark a Peter Lupton yn ennill eu capiau cyntaf i Gymru.

Carfan Cymru: Chris Beasley (Central Comets), Andy Bracek (Crusaders), Lee Briers (Warrington Wolves), Neil Budworth (MacKay Cutters), Ross Divorty (Featherstone Rovers), Gil Dudson (Crusaders) Ben Flower (Crusaders), Tyson Frizell (Cronulla Sharks), Andrew Gay (Scorpions De Cymru), Aled James (Scorpions De Cymru), Jordan James (Crusaders), Danny Jones (Halifax) Craig Kopzcak (Bradford Bulls), Elliot Kear (Crusaders), Mark Lennon (Thirroul Butchers), Peter Lupton (Crusaders), Christiaan Roets (Scorpions De Cymru), Matt Seamark (Wynnum Manly Seagulls), Gareth Thomas (Crusaders), Ian Watson (Swinton Lions), Ian Webster (Central Comets), Lloyd White (Crusaders), Lee Williams (Crusaders), Rhys Williams (Warrington Wolves).

Carfan Iwerddon: Jonny Cullan (Ballynahinch Rabbitohs), Paddy Barcoe (Carlow Crusaders), Elliot Cosgrove (Dewsbury Rams), Liam Finn (Featherstone Rovers), Bob Beswick, Paul Handforth (Halifax RLFC), Greg McNally (Huddersfield Giants), Luke Ambler, Callum Casey (Leeds Rhinos), Joe Taylor (North Dublin Eagles), Paddy Boyle (Oxford Cavaliers), Tim Bergin, Pat Smith (Sheffield Eagles), Ian Cross, Aaron McCloskey (St Helens), Ged Corcoran (Toulouse Olympique), Lemeki Vaipulu (Treaty City Titans), Tyrone McCarthy (Warrington Wolves), Sean Carmody (York City Knights).