Llofruddiaeth: 24 awr arall i holi
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael 24 awr ychwanegol i holi dau ddyn ar amheuaeth o lofruddio gyrrwr o Hwngari yn Sir Ddinbych.
Bu ymosodiad ar Gabor Peter Sarkozi, 38, ger tŷ bwyta Tseineaidd lle'r oedd yn gweithio yng Ngallt Melyd nos Fawrth, a bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae cwets i'w farwolaeth wedi ei agor a'i ohirio gan y dirprwy grwner.
Mae gan yr heddlu tan 10:15pm nos Sadwrn i holi'r ddau ddyn wedi iddyn nhw ymddangos gerbron ynadon Llandudno nos Wener.
Roedd Mr Sarkozi, a oedd yn byw yn Y Rhyl ac yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Gabby', wedi bod yn gweithio i fwyty'r Happy Garden nos Fawrth.
Ymchwiliad yn parhau
Mae'r heddlu yn dal i chwilio am dystion allai fod wedi gweld ymosodiad ar Ffordd Talargoch, Gallt Melyd, rhwng 10pm a 10:45pm nos Fawrth, Hydref 18.
Mae ditectifs hefyd yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welod dau ddyn yn gwisgo crysau 'hoodie' ar Ffordd Talargoch neu ar Ffordd Dyserth yn arwain tuag at y Rhyl rhwng 10pm a 11:35pm.
Mae ymchwiliad o ddrws i ddrws yn yr ardal yn parhau.
Gall tystion ffonio'r heddlu ar 101 neu 0845 6071001, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011