Achub dau fachgen mewn hen chwarel yn Llandybie

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dau fachgen 10 ac 11 oed eu hachub gan hofrennydd ar ôl mynd i drafferthion mewn hen chwarel yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin.

Dywed y gwasanaethau bryd iddynt gael eu galw i chwarel Pantllyn am 2.36pm ddydd Gwener.

Cafodd y ddau eu hachub 8 metr (26 troedfedd) lawr wyneb y chwarel, 75 metr (246 troedfedd) o uchder.

Daw'r digwyddiad ddiwrnod yn unig ar ôl i fachgen 14 oed o Brestatyn gael ei ladd ar ôl disgyn mewn hen chwarel yn Sir Ddinbych.

Bu farw James Beck ar ôl syrthio yn chwarel Gallt Melyd, ger Prestatyn.

Does dim rhagor o fanylion wedi rhyddhau am y ddau fachgen yn Llandybie.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Achub nad oedd angen triniaeth ysbyty ar y ddau.

Cafodd pedwar o griwiau gwasanaeth tân ac achub Canolbarth a Gorllewin eu hanfon o Rydaman, Llanelli a Phontardawe.

Roedd yna dîm sy'n arbenigo mewn achub gyda rhaffau wedi ei anfon o orsaf Treforys.