Wolves 2-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Danny Graham yn sgorio gol gyntaf Abertawe hebio Wayne Henessey
Ildiodd Abertawe ddwy gol mewn dau funud a cholli'r cyfle o sicrhau tri phwynt oddi cartref yn erbyn Wolves yn yr Uwchgynghrair.
Aeth Abertawe ar y blaen ar ôl i Danny Graham sgorio o bas gelfydd gan Mark Gower ar ôl 23 munud.
Hwn oedd y trydydd gol mewn tair gem i Graham.
Chwaraewr rhyngwladol Cymru Joe Allen gafodd yr ail ac roedd Abertawe 2-0 ar y blaen cyn yr egwyl.
Abertawe oedd yn meistroli canol y cae ac yn llawn haeddu bod ar y blaen.
Parhau i ymosod wnaeth yr ymwelwyr yn yr ail hanner gyda Hennessey yn rhwystro dau gynnig gan Sinclair.
Ond gyda chwe mud yn unig yn weddill sgoriodd Doyle a O'Hara i sicrhau gem gyfartal i Wolves.
Hwn oedd pwynt cyntaf Abertawe oddi cartref.
Canlyniad :-
Wolves 2-2 Abertawe