Wrecsam 0-0 Chasnewydd
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 0-0 Casnewydd
Bu'n rhaid i Wrecsam, y tîm sydd ar frig Uwchgynghrair Blue Square Bet, fodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Casnewydd ar y Cae Ras.
Daeth cyfle gorau Casnewydd i Craig McAllister ym munud cyntaf y gêm, ond ergydiodd yn syth yn erbyn y golgeidwad Joslain Mayebi.
Jake Speight gafodd cyfle gorau Wrecsam, ond ergydiodd heibio'r postyn gyda dim ond y golgeidwad i guro.
Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yn parhau ar frig yr adran tra bod Casnewydd dri o'r gwaelod.