BBC Cymru Fyw

Buddugoliaeth i Gaerdydd

Published
image copyrightNot Specified

Caerdydd 5 - 3 Barnsley

Sgoriodd Aron Gunnarsson ddwywaith wrth i Gaerdydd sicrhau buddugoliaeth mewn gem llawn goliau yn erbyn Barnsley.

Kenny Miller roddodd Caerdydd ar y blaen ar ôl 10 munud cyn i'r eilydd Joe Mason ddyblu'r sgôr.

Cadwodd gol Danny Drinkwater o gic rydd ddiddordeb Barnsley yn y gêm, dim ond i Gunnarsson gadw'r bwlch i ddwy gol.

Ar ôl i Don Cowie a Gunnarsson sgorio eto yn yr ail hanner roedd hi'n edrych yn fuddugoliaeth gyffyrddus i'r tîm cartref.

Ond roedd yna ddiweddglo cyffrous gyda Jimmy McNulty a Ricardo Vaz Te yn sgorio i'r ymwelwyr.