Uwchgynghrair Cymru

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Mae'r Seintiau Newydd ar frig Uwchgynghrair Cymru ar ol curo Port Talbot 3-2.

Bydd Bangor yn aros yn y pedwerydd safle er iddynt guro Castell-nedd o 2-1.

Goliau hwyr gan Peter Hoy (85 munud) ac Alan Bull (90'+5) yn sicrhau'r fuddugoliaeth ar ôl i Luke Bowen roi'r ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Mae Castell-nedd yn parhau yn drydydd ar wahaniaeth goliau.

Wythnos wedi iddyn nhw ddringo i'r ail safle yn Uwchgynghrair Cymru, fe gafodd Llanelli noson rwystredig nos Wener.

Roedd tîm yn teithio i wynebu'r cymdogion agosaf, Lido Afan, oedd yn nawfed ar ddechrau'r noson.

Ond er fod disgwyl i Lanelli ennill, fe gafwyd gêm ddi-sgor yno.

Yn y gêm arall chwaraewyd nos Wener, roedd buddugoliaeth oedd efallai ychydig yn annisgwyl i Airbus UK Brychdyn.

Prestatyn oedd yr ymwelwyr, ond aeth Airbus ar y blaen wedi dim ond pedwar munud diolch i gynnig Glenn Rule.

Steve Rogers ddaeth â Phrestatyn yn gyfartal wedi 14 munud.

Ond fe ddaeth y gol a gipiodd y triphwynt i Frychdyn yn yr ail hanner.

Gavin Cadwallader gafodd y gol hollbwysig wedi 67 o funudau.

I ychwanegu at noson wael Prestatyn, fe gafodd eu hamddiffynwr Martin Beattie y cerdyn coch yn y funud olaf.

Canlyniadau

Nos Wener:-

Lido Afan 0-0 Llanelli

Airbus UK Brychdyn 2-1 Prestatyn

Dydd Sadwrn:-

Caerfyrddin 0-1 Y Bala

Y Drenewydd 1-2 Aberystwyth

Seintiau Newydd 3-2 Port Talbot

Bangor City 2-1 Castell-nedd

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.Seintiau Newydd 12 +17 29
2. Llanelli 12 + 20 26
3. Castell-nedd 12 +14 25
4. Bangor 12 +9 25
5. Bala 12 +6 23
6. Prestatyn 12 +4 17
-----------------------------------------------------------------------------------------
7. Port Talbot 11 -3 14
8. Airbus UK Brychdyn 12 -7 11
9. Aberystwyth 12 -9 10
10.Lido Afan 12 -12 9
11. Drenewydd 12 -21 9
12. Caerfyrddin 12 -17 6