Cyhuddo dau o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Gallt MelydFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i Mr Sarkozi nos Fawrth

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddio gyrrwr tŷ bwyta o Hwngari yn Sir Ddinbych nos Fawrth.

Bydd Gary Bland 41 oed a James Siree 21, y ddau o'r Rhyl, yn ymddangos gerbron Ynadon Prestatyn ddydd Llun.

Bu farw Gabor Sarkozi, 38 oed ar ol cael ei anafu'n ddifrifol ar Ffordd Talargoch yn Alltmelyd, ger Prestatyn.

Cafwyd hyd iddo am 10.45pm.

Roedd ganddo anafiadau i'w ben a bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd Mr Sarkozi, a oedd yn byw yn Y Rhyl ac yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Gabby', wedi bod yn gweithio i fwyty'r Happy Garden.

Roedd o'n cludo bwyd i gwsmeriaid.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu 0845 6071001, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol