Seland Newydd yn bencampwyr
- Cyhoeddwyd

Seland Newydd yw pencampwyr rygbi'r byd ar ôl curo Ffrainc mewn gem hynod agos yn Auckland.
Hwn yw'r eildro i'r Crysau Duon ennill y gystadleuaeth, y nhw oedd y pencampwyr cyntaf 24 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd Seland Newydd ar y blaen 5-0 ar yr egwyl gyda Woodcock yn croesi o 5 metr ar ôl derbyn y bêl yn dilyn tafliad i'r llinell.
Er i Seland Newydd ymestyn eu mantais gyda chig gosb fe darodd Ffrainc yn ôl gyda chais gan Dusautoir.
Hwn, o bell ffordd, oedd perfformiad gorau Ffrainc yn y gystadleuaeth.
Roedd y Ffrancwyr wedi colli ddwywaith yn y gemau agoriadol ac wedi bod yn ffodus i guro Cymru'r wythnos diwethaf.
Ond ddydd Sul fe lwyddodd Ffrainc i sicrhau gem derfynol hynod agos.
Croesodd Dusautoir gyda 30 munud yn weddill.
Ar ôl hynny methodd Francois Trinh-Duc gyda chig cosb o bellter a bu'n rhaid i'r Crysau Duon ddibynnu ar amddiffyn cryf er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth.