Cwpan LV=
- Cyhoeddwyd

Roedd yna fuddugoliaeth swmpus i Scarlets yn erbyn y Gleision ddydd Sul.
I'r ymwelwyr llwyddodd Adam Warren, Kirby Myhill, Richie Pugh a Kieran Murphy i groesi'r llinell.
Daeth unig bwyntiau'r Gleision o esid Rhys Patchell.
Croesodd Murphy gyda phum munud yn weddill er mwyn sicrhau pwynt bonws i'r Scarlets.
Gyda chig gosb yn y funud olaf fe wnaeth y maswr Steffan Jones sicrhau buddugoliaeth ddramatig 30-29 i'r Dreigiau yn erbyn Wasps yn Adams Park.
Daeth buddugoliaeth y Cymry er gwaeth i'r Wasps sogrio pedwar cais o'i gymharu â dau i'r ymwelwyr.
John Hart, Tom Varndell, Ross Filipo a Joe Simpson groesodd i Wasps.
Phil Price ân Hallam Amos, groesodd i'r Dreigiau, gyda gweddill y pwyntiau yn dod o esgid Jones.
Roedd yna fuddugoliaeth o 32-22 i Northampton yn erbyn y Gweilch ar gau'r Bragdy ym Mhen-y-bont.
Y tîm cartref oedd ar y blaen 19-12 ar yr egwyl gyda chais gan Sonny Parker a chicio llwyddiannus Matthew Morgan.
Ond gyda chwaraewyr yn dychwelyd o Gwpan y Byd - Dylan Hartley, Courtney Lawes, Soane Tonga'uiha, Ben Foden, Vasily Artemyev a Chris Ashton - roedd Northampton yn rhy gryf.
Canlyniadau :-
Gleision 3-30 Scarlets
Wasps 29-30 Dreigiau
Gweilch 22-32 Northampton