Parcio: Galw am newid radical
- Cyhoeddwyd

Mae'r dyn sydd â'r gwaith o ddenu busnes i ganol Abertawe yn dweud bod angen i gynghorwyr feddwl yn fwy radical wrth geisio denu pobl i wario arian yn y ddinas.
Dywed y cynghorydd Richard Lewis fod angen haneru prisiau parcio a hysbysebu hynny'n eang.
Mae'r cynghorydd Lewis wedi cael ei benodi yn ddolen gyswllt rhwng perchnogion siopau'r ddinas ac arweinydd y cyngor Chris Holley.
Daw ei sylwadau er gwaetha'r ffaith mai bach iawn o wahaniaeth gafodd penderfyniad diweddar i ostwng prisiau mewn maes parcio aml-lawr ar y Stryd Fawr yng nghanol y ddinas.
Posteri
Ym mis Gorffennaf, cafodd o gost o aros hyd at bedair awr ar ôl 10am ei ostwng o £4.50 i £1.
"Yr eironi yw na chafwyd unrhyw ddefnydd ychwanegol," meddai'r Cynghorydd Lewis.
"Mae yna ddwy broblem, yn gyntaf mae yna broblem gyda diogelwch ac yn ail sut oedd pobl i wybod am y cynnig.
"Yn y pythefnos nesa dwi am i ni haneru prisiau ym mhob un o'n meysydd parcio, ac yn y pythefnos cyn y Nadolig dylai parcio fod yn rhad ac am ddim," meddai.
"Pe bai ni'n rhoi posteri y tu fas i bob un lle parcio yn dweud hanner pris, mae'n siŵr y byddwn ni yn denu ddwywaith os nad tair gwaith yn fwy o geir."
Dywedodd fod angen meddwl sut y mae denu mwy o bobl i'r ddinas.
"Rydym wedi cynyddu nifer y wardeiniaid traffig 700%. Mae hynny wedi cael effaith, ac mae nifer o bobl yn cadw mas o ganol y ddinas.
Arolwg
"Mae busnesau yn dweud eu bod am weld tal parcio rhatach a pharcio mwy diogel."
Dywedodd y cynghorydd fod hefyd angen gwneud mwy i wneud canol y ddinas yn fwy deniadol.
Mae'n awgrymu rhoi to dros Stryd Rhydychen, a chynnal marchnad ar y Stryd Fawr ddydd Sul.
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn cynnal arolwg o'r gwaith i wella canol y ddinas.
Fel rhan o'r arolwg bydd pobl yn cael eu holi ynglŷn â sut mae gwella parcio yng nghanol y ddinas.
Daw'r newyddion yn sgil rhybudd gan Siambr Fasnach De Cymru fod dinasoedd Abertawe a Chasnewydd wedi dioddef yn sgil canolfan siopa newydd Dewi Sant yng Nghaerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2011