Llofruddiaeth: Apêl am dystion

  • Cyhoeddwyd
Gallt MelydFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i Mr Sarkozi nos Fawrth

Mae'n bosib fod gyrrwr yn ardal Prestatyn wedi bod yn dyst i lofruddiaeth gyrrwr tŷ bwyta yn Sir Ddinbych.

Dywed yr Heddlu fod Gabor Sarkozi, 38 oed, wedi dioddef dau ymosodiad ar wahân ym mhentref Gallt Melyd.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar yrrwr y car ac unrhyw un oedd yn teithio yn y car i gysylltu â nhw.

Mae dau ddyn o'r Rhyl wedi eu cyhuddo o lofruddio Mr Sarkozi, oedd yn wreiddiol o Hwngari

Bydd y ddau, Gary Bland 41 oed James Siree, 21 oed, yn ymddangos gerbron Ynadon Prestatyn ddydd Llun.

Cafwyd hyd i Mr Sarkozi gydag anafiadau difrifol i'w ben yn Ffordd Talargoch am 10.45pm ddydd Mawrth diwethaf.

Roedd Mr Sarkozi, a oedd yn byw yn Y Rhyl ac yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Gabby', wedi bod yn gweithio i fwyty'r Happy Garden yng Ngallt Melyd.

Roedd o'n cludo bwyd i gwsmeriaid.

Dywed y Ditectif Prif Arolygydd Iestyn Davies fod ymateb y cyhoedd wedi bod yn dda iawn.

"Rwyf yn credu fod yna dystion sydd heb eto gysylltu â'r heddlu, a gall eu tystiolaeth fod yn werthfawr iawn.

"Rwy'n apelio ar yrrwr Mini One neu Mini Cooper golau gyda tho du i gysylltu â ni.

"Rydym yn gwybod fod y car yma wedi teithio drwy'r pentref rhwng 22.45pm a 22.50pm. Byddai pwy bynnag oedd yn y car wedi gweld yr ymosodiad," meddai

"Rwyf nawr yn credu fod yna ddau ymosodiad ar Mr Sarkozi."

Eglurodd bod yr ymosodiad arall wedi bod ar Ffordd Talargoch ger y fynedfa i Dyserth Hall Mews a hynny tua thri chwarter milltir o'r lle cafwyd hyd i Mr Sarkozi.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu 0845 6071001, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol