Gwrthdrawiad: Dau yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Map o'r ardalFfynhonnell y llun, bbc

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad ar ffordd yng Ngwynedd.

Bu'n rhaid cludo dau berson i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar yr A487 ger Gellilydan yn ymyl Trawsfynydd am tua 7:00pm nos Sul.

Mae un o'r ddau berson wedi dioddef anafiadau difrifol.

Dywed yr heddlu mai un cerbyd yn unig - car VW Golf glas - oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Gall unrhyw dystion ffonio Heddlu'r Gogledd ar 101 neu 0845 6071001.