Llanc wedi ei anafu ar Fannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd

Cafodd person yn ei arddegau ei gludo i'r ysbyty ar ôl disgyn ar Fannau Brycheiniog.
Cafodd ambiwlans ei galw i'r digwyddiad ar Sgwd Pannwr ger Pontneddfechan am 4:20pm brynhawn Sul.
Daeth tîm achub mynydd i gynorthwyo, a bu'n rhaid galw hofrennydd o Chivenor yn Nyfnaint.
Cafodd y person ei gludo ar stretsier dros greigiau cyn i'r hofrennydd fedru ei gludo o'r mynydd ac i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Credir fod y person wedi cael ei anafu ar ôl neidio o ochr rhaeadr i blymbwll fel rhan o daith gerdded gydag arweinydd.
"Mae hofrennydd yr awyrlu yn werthfawr dros ben mewn sefyllfaoedd fel hyn, ac yn arbed oriau o waith cario stretsier i aelodau'r tîm," meddai Mark Moran o Dîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog.
"Mae'n fwy diogel i'r dioddefwr hefyd er mwyn gallu cael gofal meddygol proffesiynol o fewn munudau."
Dyma oedd yr ail ddigwyddiad yn yr ardal dros y penwythnos gan i gerddwr ddiodde' anafiadau i'w ben wrth gerdded ar Sgwd Clyn Gwyn gerllaw.