Apêl: Bygwth merch 13 gyda chyllell

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf rheilffordd LlanelliFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y ferch yn gadael gorsaf rheilffordd Llanelli

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl digwyddiad yn Llanelli nos Sadwrn, Hydref 22.

Dywedodd yr heddlu fod merch 13 oed wedi gadael gorsaf rheilffordd Llanelli tua 6pm nos Sadwrn a cherdded ar hyd Ffordd Craddock a Ffordd Dilwyn cyn croesi i mewn i Ffordd Caswell.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Fe wnaeth dyn ei dilyn yr holl ffordd cyn mynd ati ar Ffordd Caswell a'i bygwth gyda chyllell.

"Fe wnaeth fynnu cael arian a ffôn symudol ganddi ond wnaeth y ferch ddim rhoi unrhyw beth iddo."

Cafodd y dyn ei ddisgrifio fel dyn gwyn tua 20 oed a thua 5 troedfedd 4 modfedd o daldra. Roedd yn denau ac yn gwisgo hoodie tywyll.

Roedd ganddo lais uchel a dannedd cam.

'Brawychus'

"Er na chafodd neb anaf yn y digwyddiad roedd yn amlwg yn ddigwyddiad amhleserus a brawychus i'r dioddefwraig," meddai'r Ditectif Sarjant Ifan Charles.

"Rwy'n apelio am unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â'r heddlu ar unwaith gan ei bod hi'n bosib fod ganddyn nhw wybodaeth allai fod o gymorth i ymchwiliad yr heddlu."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth, neu oedd yn yr ardal ar y pryd, ffonio'r heddlu yn Llanelli ar 101.