Royal Charter: Dangos lluniau newydd
- Cyhoeddwyd

Bydd deunydd fideo, sydd erioed wedi'i weld o'r blaen, o un o longddrylliadau mwya' Cymru'n cael ei ddangos am y tro cynta'.
Fe darodd llong y Royal Charter yn erbyn y creigiau ger Moelfre, Ynys Môn, mewn storm fawr ym mis Hydref, 1859.
Collodd o leia' 459 o deithwyr eu bywydau yn y trychineb.
Roedd y llong yn cludo llawer iawn o aur, ac ar ei ffordd o Melbourne yn Awstralia i Lerpwl.
Ar y pryd, hon oedd y trychineb morwrol mwya' erioed oddi ar arfordir Prydain.
Dim ond 50 llath o'r tir oedd y llong pan aeth hi i drafferthion ac fe aeth rhai o bobl y pentref i achub yr ychydig oedd wedi goroesi.
'Gwedd newydd'
Bydd y ffilm newydd yn cael ei dangos gan y nofiwr tanddwr, Chris Holden, trysorydd Clwb Tanddwr Caer, fel rhan o ddarlith i'w chyflwyno nos Fawrth, ar drothwy nodi 152 o flynyddoedd ers y trychineb ar Hydref 26 1859.
Mae Mr Holden, ynghyd â'i wraig, Lesley, wedi ysgrifennu llyfr am y digwyddiad - Life and Death on The Royal Charter.
Dywedodd Mary Tetley, Prif Weithredwr Clwb Tanddwr Prydain, bod y cwpl wedi "gwneud gwaith anhygoel" yn ymchwilio i stori'r Royal Charter.
"Fe fydd y ddarlith yn rhoi gwedd newydd ar y trychineb morol yma," meddai.
Yn ogystal â'r deunydd fideo newydd, bydd cyfle cynta' hefyd i weld arteffactau o'r llongddrylliad, rhai ohonynt wedi'u hachub o'r safle llai na 12 mis yn ôl.
Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Grosvenor, Caer, am 7.30pm nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- 23 Hydref 2009