Pryder am werthu ffermydd tenant

  • Cyhoeddwyd
Defaid
Disgrifiad o’r llun,
Mae o leia 400 fferm tenant gyda chyfanswm o 25,000 cyfer yng Nghymru

Mae undeb amaethwyr yn pryderu na fydd darpar ffermwyr yn gallu ymuno â'r diwydiant am fod mwy o ffermydd tenant sydd mewn perchnogaeth awdurdodau lleol yn cael eu gwerthu.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn honni bod rhai cynghorau yn ceisio gwerthu eu ffermydd pan mae cyfnodau tenantiaeth yn dod i ben.

Dywedodd yr undeb fod ffermydd awdurdodau lleol yn "bwysig iawn" i alluogi pobl ifanc i ddechrau ffermio.

Mae arolwg gan BBC Cymru wedi dod i'r casgliad bod o leiaf 400 fferm tenant gyda chyfanswm o 25,000 cyfer yng Nghymru.

Dywedodd Rhian Nowell-Phillips, dirprwy cyfarwyddwr polisi amaethyddol yr undeb eu bod yn poeni fod gymaint o gynghorau yn gwerthu ffermydd tenant yn enwedig y rhai lle mae'r cyfnod tenantiaeth yn dod i ben.

"Mae ffermydd tenant wastad wedi eu hystyried yn ffordd dda i bobl gael cyfle i ddechrau yn y diwydiant ffermio.

"Mae bod yn denant fferm yn un o'r cyfleoedd prin sydd gan bobl heb gefndir amaethyddol i ddechrau ffermio."

Dywedodd Cymdeithas y Ffermwyr Tenant fod llawer o alw gan bobl i fod yn ffermwyr tenant ond doedd dim digon o gyfleoedd iddyn nhw wneud hynny.

"Mae yna broblemau ynghylch awdurdodau lleol yn gwerthu ffermydd tenant," meddai Sara Sumner, sy'n ymgynghorydd i'r gymdeithas.

"Mae'r cynghorau yn ystyried y ffermydd hyn yn ased ond os nad ydyn nhw'n gwneud elw maen nhw'n fodlon eu gwerthu."

'Unedau fferm ddichonadwy'

Ychwanegodd Ms Sumner mai problem arall oedd yr ansicrwydd ymysg ffermwyr tenant am fod tenantiaethau yn aml ddim ond yn para am rai blynyddoedd.

Does dim un fferm tenant gan nifer o awdurdodau lleol Cymru ond mae gan gynghorau Sir Powys, Gwynedd, Sir Benfro ac Ynys Môn 350 fferm gyda thua 25,000 cyfer rhyngddynt.

Mae gan Gyngor Powys yr ystâd ffermio fwyaf yng Nghymru ymysg awdurdodau lleol.

Mae'r cyngor yn berchen 156 uned fferm gyda 11,000 cyfer.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys eu bod yn ceisio creu "ystâd craidd o unedau fferm ddichonadwy".

"Fel rhan o'r broses hon mae anheddau ac adeiladau diangen yn cael eu gwerthu ond, yn gyffredinol, rydyn ni'n cadw tir yr unedau fferm a'i uno ag unedau fferm eraill.

"Ni fydd y cyngor yn gwerthu unedau fferm gyflawn heblaw am resymau eithriadol."

'Creu cyfalaf'

Dywedodd y cyngor eu bod wedi gwerthu rhan o'u hystâd yn Nhre'r-llai, sydd yn groes i'w polisi arferol.

"Roedd hyn yn werthiant unigryw i alluogi'r adfywiad o nifer o adeiladau ffermio hanesyddol gan gynnwys pum uned fferm," dywedodd y llefarydd.

Y llynedd, clywodd ymchwiliad ynghylch system ffermio awdurdodau lleol gan is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cymru fod y pwysau ariannol ar gynghorau yn eu gorfodi i werthu tir ac adeiladau mewn ymgais i godi arian.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn wrth yr ymchwiliad fod tua 80% o anheddau angen eu hadfer a byddai'r gost o wneud hynny tua £5 miliwn.

Ychwanegodd y cyngor, sy'n berchen 92 fferm gyda 6,000 cyfer, fod rhaid iddyn nhw werthu eu heiddo lleiaf i ariannu'r gwelliannau.

Dywedodd y cyngor wrth BBC Cymru nad oedden nhw wedi gwerthu ffermydd cyfan ond roedden nhw wedi gwerthu pum tŷ fferm "i resymoli'r ystâd o dyddynnod a chreu cyfalaf i ail-fuddsoddi yn yr ystâd."

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli'r cynghorau, nad oedd am wneud sylw tan iddyn nhw drafod y mater gyda'r aelodau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol