Achos newydd o E.coli mewn meithrinfa ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Straen anhysbys o E-coliFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Dywed arbenigwyr ei bod yn anodd canfod tarddiad am fod y salwch yn gallu lledu'n gyflym ymysg plant ifanc.

Mae achos newydd o E.coli 0157 yn golygu bod cyfanswm o saith achos wedi dod i'r amlwg mewn meithrinfa ar Ynys Môn.

Cafodd Meithrinfa Tri Ceffyl Bach ei chau ar Hydref 13, wedi i'r achosion cynta' ddod i'r amlwg.

Ond daeth cyhoeddiad yr wythnos ddiwetha' y bydd y feithrinfa yn cau yn barhaol.

Hyd yn hyn mae 60 o bobl sydd â chysylltiad â'r feithrinfa wedi cael profion.

Mae'r rhain yn cynnwys plant, aelodau o'u teuluoedd ac aelodau o staff y feithrinfa.

'Anodd canfod tarddiad'

Mae ymchwiliad i darddiad yr achosion yn parhau.

Dywedodd Dr Chris Whiteside, o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Dyw e ddim yn anghyffredin i ganfod rhagor o achosion oherwydd natur yr haint hwn.

"Bydd ymchwiliadau i darddiad yr haint yn parhau ond mae'n anodd canfod y tarddiad am fod y salwch yn gallu lledu'n gyflym ymysg plant ifanc.

"Mae tua 80 achos o E.coli O157 yn cael ei ganfod yng Nghymru pob blwyddyn ac mae llawer o waith yn cael ei wneud i reoli'r salwch yn yr ardal."

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall y salwch amrywio o ddolur rhydd ysgafn i ddolur rhydd gwaedlyd, gyda chrampiau difrifol posib yn y stumog.

Angheuol

Cymhlethdod difrifol haint E.coli O157 yw syndrom wremig hemolytig (HUS), sy'n digwydd ymysg hyd at 10% o gleifion sydd wedi cael eu heintio â VTEC O157.

Mae'n effeithio'n benodol ar blant ifanc ac ar bobl oedrannus ac, mewn nifer fach o achosion, gall fod yn angheuol.

Mae mesurau rheoli digonol ac arferion hylendid da yn bwysig i atal heintiau gan E.coli O157, ac mae'r rhain yn cynnwys:

Golchi dwylo'n drylwyr cyn bwyta neu baratoi bwyd, ar ôl defnyddio'r toiled, ar ôl newid cewynnau neu lanhau ar ôl pobl eraill sy'n dioddef dolur rhydd.

Sicrhau bod cig, yn enwedig briwgig cig eidion, yn cael ei goginio'n drylwyr (gall cig gael ei halogi yn ystod y lladd, a gall organebau gael eu cymysgu i'r cig yn anfwriadol wrth wneud y briwgig).

Trafod, paratoi a storio cig amrwd a chynhyrchion eraill anifeiliaid mewn modd hylan a sicrhau nad yw cigoedd amrwd a'r offer a ddefnyddir i'w trafod yn dod i gysylltiad â chig wedi'i goginio na bwyd parod.

Dylai unrhyw un â phryderon gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Iechyd ar 0845 46 47.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol