Gwerthu tai i dalu am ffioedd nyrsio

Yr Athro Bonesig June Clark Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r system yn "annheg" ac yn "sgandal" yn ôl yr Athro Bonesig June Clark

Mae cannoedd o deuluoedd yng Nghymru yn gorfod gwerthu eu cartrefi i dalu am ffioedd cartrefi nyrsio.

Ond mae cyfreithiwr amlwg wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw llawer o'r gwerthiannau yn angenrheidiol gan mai'r Gwasanaeth Iechyd ddylai dalu'r ffioedd.

Mae ymchwiliad gan raglen BBC Cymru, Week In Week Out, wedi dod i gasgliad bod nifer yr henoed yng Nghymru sy'n gymwys ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y Gwasanaeth Iechyd wedi gostwng 7% ers i broses asesu newydd gael ei chyflwyno.

Mae'r system wedi'i alw'n "annheg" ac yn "sgandal" gan un arbenigwr yn y maes.

Asesiadau

Mae hi'n honni ei bod hi'n anoddach i fod yn gymwys am gyllid yng Nghymry nag yn Lloegr.

Mae mam Gillian Webb, sy'n 91 oed, wedi gorfod symud i gartref nyrsio yng Nghaerdydd am ei bod hi'n rhy sâl i gael gofal yn y cartref.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywed Gillian Webb ei bod hi wedi gorfod gwerthu tŷ ei mam

Ond mae Mrs Webb wedi gorfod gwerthu tŷ ei mam i dalu am y ffioedd cartref nyrsio.

"Talodd fy nhad ei gyfraniadau drwy ei oes...dyw hyn ddim i'w wneud a'r arian...tŷ mam yw hwn...doedd gan dad ddim pensiwn...roedden nhw'n byw ar ei gyflog...ond yn awr mae'r tŷ wedi mynd...," meddai Mrs Webb.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro nad oedden nhw'n gallu cynnig sylw ar achosion unigol ond bod eu hasesiadau yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru.

Mae Helen Jones o Borthcawl yn un o'r 350,000 o bobl yng Nghymru sy'n ofalydd.

Gofal seibiant

Penderfynodd Mrs Jones ofalu yn llawn amser am ei mam, Cynthia Molkner, sy'n 83 oed ac sy'n dioddef o ddementia.

Nid yw Mrs Jones wedi cael seibiant o'i gwaith gofal am ddwy flynedd.

Mae hi'n dweud bod gwir angen gofal seibiant arni am rai wythnosau.

"Byddai hynny'n rhoi cyfle i mi gael seibiant o fod yn ofalydd oherwydd yr wyf wedi llwyr ymlâdd," meddai.

Nid ydyw Mrs Jones wedi cael dim help gyda gofal seibiant am fod asedau ei mam, gan gynnwys ei fflat dros £22,500.

Ond pe bai mam Mrs Jones yn gymwys i dderbyn Gofal Iechyd Parhaus, y Gwasanaeth Iechyd fyddai'n gorfod talu.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg nad oedd mam Mrs Jones yn gymwys i dderbyn unrhyw gyllid.

Mae Lisa Morgan, partner yng nghwmni cyfreithwyr Hugh James, yn credu y gall fod 'na fwy o deuluoedd yn gwerthu'u tai i dalu ffioedd pan mae ganddyn nhw mewn gwirionedd yr hawl i ofal nyrsio am ddim.

'Penderfyniad anghywir'

"Os mai eich prif angen yw angen iechyd, yna dylech fod yn rhan o gyfrifoldeb y Gwasanaeth Iechyd.

"Ond mae'n gamsyniad cyffredin eich bod, o fynd i gartref nyrsio, yn talu costau llawn y gofal.

"Gallai hynny olygu gwerthu cartre'r teulu, ond yr ystyriaeth gyntaf ddylai fod mai'r Gwasanaeth Iechyd sy'n talu, nid yr unigolion eu hunain.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywedodd y cyfreithiwr Lisa Morgan mai camgymeriad yw talu'r costau gofal llawn yn aml iawn

"Yn anffodus, gwneir y penderfyniad anghywir yn aml."

Cynrychiolodd deulu o Gasnewydd a heriodd y penderfyniad yn y llys, gan adennill ffioedd o dros £100,000 na ddylen nhw fod wedi'u talu.

Mae Ms Morgan yn mynnu iddi adennill dros £15 miliwn o ffioedd na ddylid fod wedi'u talu dros y pum mlynedd diwethaf.

Gofynnodd Week In Week Out i bob bwrdd iechyd yng Nghymru am ffigyrau ar nifer y cleifion oedd yn gymwys i dderbyn Arian Gofal Iechyd Parhaus y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd 314 yn llai o bobl yn gymwys i dderbyn yr arian o fewn cartrefi nyrsio yng Nghymru - mae hynny'n ostyngiad o bron 7%.

Mae'r rhaglen hefyd wedi darganfod bod y system a ddefnyddir gan aseswyr yng Nghymru i gefnogi'u penderfyniadau'n wahanol i'r un a ddefnyddir yn Lloegr, gan arwain at honiadau ei bod hi'n anoddach i'r rhai sy'n dioddef o ddementia i fod yn gymwys yma na dros y ffin.

Mae'r Athro Bonesig June Clark, cyn-lywydd Coleg Brenhinol y Nyrsys, ac aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar ofal tymor hir, yn credu fod y system yn ddiffygiol ac nad yw'n cymharu'n ffafriol â'r un a ddefnyddir yn Lloegr.

'Clirio'r pentwr'

"Bob tro rydych chi'n mynd i'r afael â system ac yn ei addasu, rydych yn colli'i ddilysrwydd.

"Os ydych am ei ddefnyddio ar ei ffurf newydd, rhaid i chi ail-brofi ei ddilysrwydd a'i ddibynadwyedd, a dydw i ddim yn meddwl ein bod wedi gwneud hynny.

"O ganlyniad, mae gennym system llai effeithiol i gefnogi penderfyniadau, ac un sydd ddim cystal â'r un yn Lloegr.

"Mae'n fy ngofidio i ddweud hynny, ond mae'n wir."

Mae bron i 2,000 o achosion yn aros i'w hasesu, achosion sydd wedi pentyrru dros y ddegawd ddiwethaf.

Dywedodd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Peter Tyndall, eu bod "wrth reswm, yn anhapus bod pobl wedi aros mor hir ac roeddem yn anhapus ei bod wedi cymryd mor hir i gael proses yn ei lle i ddelio gyda'r pentwr o achosion".

"Ond mae'r broses honno yn ei lle erbyn hyn ac er ei bod hi'n cymryd mwy o amser nag y byddem yn dymuno, rydym yn gweld bod yna obaith o glirio'r pentwr yn y pen draw.

"Rwy'n credu bod hyn wedi datblygu dros gyfnod o amser - mae'r rheolau wedi newid yn gyson, nid y ddeddfwriaeth yn unig ond y cynsail a osodir gan achosion llys gwahanol, felly mae ceisio deall ar ba sail y gwnaed y penderfyniad yn anodd iawn i bobl."

Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru: "Ni chafodd y system a ddefnyddir i gefnogi penderfyniadau ei gynllunio i bennu cymhwysedd yn uniongyrchol.

"Bydd angen dyfarniad proffesiynol ym mhob achos i sicrhau bod lefel cyffredinol yr angen yn cael ei bennu'n gywir...bydd adolygiad cynhwysfawr o'r fframwaith Gofal Iechyd Parhaus wedi'i gwblhau erbyn haf nesa."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.