Hwb ariannol i Ganolfan Gelfyddydol ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Gelfyddydol WyesideFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae tua 40,000 o bobl yn ymweld â Chanolfan Gelfyddydol Wyeside bob blwyddyn

Bydd Canolfan Gelfyddydol sydd wedi bod o dan fygythiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cael hwb ariannol gwerth £190,000 i'w adnewyddu.

Bydd Theatr y Farchnad Canolfan Gelfyddydol Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt yn cael seddi a goleuadau newydd fel rhan o'r trawsnewidiad.

Mae tua 40,000 o bobl yn ymweld â Chanolfan Gelfyddydol Wyeside bob blwyddyn.

Mae'r ganolfan yn gartref i sinema ac oriel yn ogystal â'r Theatr y Farchnad a gafodd ei hadeiladu ym 1877.

Hyderus

Mae dyfodol y ganolfan wedi bod o dan fygythiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod y gost o'i rheoli wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Y llynedd collodd y ganolfan £67,000 o gyllid ar ôl adolygiad buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd cadeirydd Canolfan Gelfyddydol Wyeside, Barbara Stow, ei bod hi'n teimlo'n hyderus ynglŷn â dyfodol y ganolfan.

"Bydd Theatr y Farchnad newydd yn golygu y bydd pobl yn gallu bod yn fwy cyffyrddus a mwynhau'r profiad o fynd i'r theatr," meddai.

"Mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi derbyn gan gyrff celfyddydol yn ystod y 18 mis diwethaf wedi ein hysgogi i gynllunio llawer o ddigwyddiadau ar gyfer y gymuned gan gynnwys dramâu ar gyfer bobl ifanc."

Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan nifer o gyrff gan gynnwys Cyngor Powys, Ffrindiau'r Wyeside a Chronfa'r Ardoll Agregau ar gyfer Cymru.

Bydd y theatr ar gau rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2012 tra'i bod hi'n cael ei hadnewyddu.

Ond fe fydd Canolfan Gelfyddydol Wyeside dal ar agor yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol