Cwmni adeiladu: Colli 40 o swyddi ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae hyd at 40 o bobl wedi colli eu swyddi ar ôl i gwmni adeiladu ym Mhowys ddod i ben yn ôl undeb Unite.
Bu'r cwmni, Trade Manufacturing Facility, o'r Drenewydd yn gwneud adeiladau bychain ac ecopodau, sef tai rhad.
Dywedodd Unite fod staff wedi mynd i'r gwaith yr wythnos diwethaf pan hysbyswyd fod y cwmni wedi rhoi'r gorau i fasnachu.
Doedd neb ar gael o'r cwmni i roi sylw ar y mater ac mae BBC Cymru wedi gofyn i'r gweinyddwyr, Smith a Williamson, am eu sylwadau.
'Diswyddo'
Dywedodd Howard Wright o'r undeb Unite fod y swyddi yn rhai oedd yn talu'n weddol dda a byddai'n anodd i staff ganfod swyddi tebyg yn yr ardal.
"Daeth y staff i'r gwaith fel arfer ar Hydref 18 pan gawson nhw wybod fod y cwmni yn rhoi'r gorau i fasnachu.
"Mae'r gweithwyr wedi cael eu diswyddo ac maen nhw'n dal i aros am bythefnos o gyflog."
Dywedodd Mr Wright byddai'r undeb yn cynnal cyfarfod â gweithwyr am 4pm ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2011
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2011